Daw Paarl o'r gair Parel, sef, 'perl' yn Iseldireg [1]). Mae'n ddinas (gyda'i threflannau) â phoblogaeth o 191,013 yn nhalaith y Wes Kaaps (Gorllewin y Penrhyn / Western Cape) yn Ne Affrica.
Dyma'r drydedd dref hynaf yn Ne Affrica ar ôl Tref y Penrhyn (Kaapstad/Cape Town) a Stellenbosch, a hi yw'r dref fwyaf yn nhiroedd gwinllanau De Affrica. Mae'r dref, i bob pwrpas bellach wedi ei huno gyda threflan Mbekweni, ac mae'n uned drefol gyda Wellington. Lleolir Paarl oddeutu 60 kilometre (37 mi) i'r gogledd ddwyrain o Kaapstad ac mae'n enwog am ei harddwch naturiol a thraddodiad gwinllanol a thyfu ffrwythau.
Er mai dyma sedd Cyngor Bwrdeisdref Drakenstein, ac nid o ardal fetropolitan Kaapstad, mae'n cwympo o fewn ardal economaidd y ddinas honno. Mae Paarl yn anarferol yn Ne Affrica gan bod ei henw'n cael ei ynganunu'n wahanol yn y Saesneg a'r Afrikaans. Bydd y Afrikaans yn aml yn rhoi'r fannod cyn yr enw gan ddweud, in die Paarl neu in die Pêrel ("yn y Paarl"), yn hytrach nag in Paarl.
© MMXXIII Rich X Search. We shall prevail. All rights reserved. Rich X Search